Pa gyfnewidiadau bynag
Welo'm bywyd ar y llawr,
Llwyddiant, ynte neu aflwyddiant,
T'wniad haul, neu storom fawr;
Enw hyfryd fy Iachawdwr
Gaiff ddyfyru'm dydd i maes,
Canu ei glod, a chant ryfeddu
Nerth ei nefol ddwyfol ras.
Y mae meddwl am ei haeddiant,
Meddwl am ei gariad pur,
Fel rhyw ffynnon o lawenydd,
Lawn o ddwfr gloyw, clir;
Ef ei hunan yw'm gogoniant,
Ef yw'm hymffrost a fy ngrym;
Enw pawb o dan yr wybren
Ond ei hunan elo'n ddim.
Fy holl obaith sy'n ei enw -
Enw godidoca'r ne',
'Rwyf yn gwadu ac yn gwrthod
Unrhyw noddfa ond efe;
Ef yw'm hiachawdwriaeth werthfawr,
F'amddiffynfa, a fy Nuw,
Ef a'i ras gaiff
fod yn sylwedd
Fy nghaniadau tra fwyf byw.
Mae'i angylion yn cwmpasu
Y rhai sy'n aros yn ei glwy',
Fe wna i fyny eu hangenion,
'Chaiff fod eisieu arnynt mwy;
Fe gyf'rwydda'u holl gerddediad,
Ac fe wylia ddydd a nos,
Fel na bo na gwae nac ochain
I etifeddion gwaed y groes.
Mae ei glustiau yn agored
I'r gweddíau bob yr un,
Ac yn addfwyn ef a gymmer
Eu gofalon arno'i hun;
Pan bo t'wyllwch ac anobaith
Yn amgylchu eu llwybrau o'r bron,
Ef ei hun fydd eu harweinydd,
Ef a'u cynnal dan bob ton.
William Williams 1717-91
Tonau [8787D]: gwelir: Bryd ca'i wel'd y tir dymunol Capten mawr ein hiachawdwriaeth Deued dyddiau o bob cymmysg Ffynnon wyt o bob tosturi Manna nefol sy arnaf eisiau Mae ei glustiau yn agored |
Whatever changes
My life sees on earth below,
Success, or failure,
Sunshine, or great storm;
The delightful name of my Saviour
Shall get to delight me all my day,
Singing his praise, and they shall get
To wonder at his heavenly divine grace.
Thinking about his merit,
Thinking about his pure love,
Like some fount of joy,
Full of bright, clear water;
He himself is my glory,
He is my boast and my strength;
The name of everyone under the sky
But himself going to nothing.
My whole hope is in him name -
The supreme name of heaven,
I am denying and refusing
Any refuge but him;
He is my precious salvation,
My defence, and my God,
He and his grace shall get
to be the substance
Of my songs while ever I live.
His angels are encompassing
Those who abide in his wound,
He makes up their needs,
They shall have no want any more;
He will direct all their course,
And he will watch day and night,
That there be no woe or groan
For the heirs of the blood of the cross.
His ears are open
To the prayers of every one,
And gently he will take
Their cares upon himself;
When darkness and hopelessness be
Surrounding their paths completely,
He himself shall be their leader,
He shall support them under every wave.
tr. 2020 Richard B Gillion
|
|